Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Tachwedd 2020

Cyhoeddwyd Sul 1 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Coronafeirws, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cronfa Argyfwng i Awduron – Parhaus

Mae modd i bob awdur proffesiynol sydd yn byw yn y DU neu sydd yn Ddinesydd Prydeinig ymgeisio – gan gynnwys bob math o awdur, ddarlunydd, gyfieithydd llenyddol, sgriptiwr, beirdd, newyddiadurwyr ac eraill – os yw’r weithgaredd hon yn gyfrifol am ganran helaeth o’u hincwm blynyddol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds#:~:text=The%20Authors’%20Emergency%20Fund,-Emergency%20funding%20for&text=Many%20writers%2C%20illustrators%2C%20journalists%2C,talks%2C%20performances%20and%20school%20visits.

 

Grant White Pube i Awduron – Misol

Rhoddir y Grant White Pube o £500 yn fisol i awdur dosbarth gweithiol yn y DU. Sefydlwyd y grant hwn er mwyn cefnogi awduron o bob oed yn gynnar y neu gyrfa a hoffai fanteisio ar gymorth ariannol heb gytundeb I’w cynorthwyo ym mha bynnag ffordd yr hoffent – gall fod i ryddhau amser I ysgrifennu, I brynnu llyfrau, printio, tanysgrifiadau, ymchwil, datblygu, teithio, neu i dalu costau cyffredinol byw neu rent.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.thewhitepube.co.uk/writersgrant#:~:text=This%20grant%20has%20been%20set,development%2C%20travel%2C%20or%20even%20just

 

Cyfarwyddwr Gŵyl StAnza – 6 Tachwedd

Mae StAnza yn chwilio am unigolyn creadigol, dynamig a gweithgar, gydag angerdd dros farddoniaeth, i ymgymryd â rôl lawrydd Cyfarwyddwr StAnza, gŵyl farddoniaeth ryngwladol flynyddol Yr Alban, wedi ei lleoli yn St Andrews. Y cyflog yw £18,000, pro rata.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://stanzapoetry.org/blog/director-vacancy

Cronfa Cydweithio Digidol – 18 Tachwedd

Mae’r British Council yn cynnig grantiau o hyd at £50,000 i sefydliadau ar draws y DU a rhai gwledydd tramor i gydweithio’n ddigidol ar brosiectau rhyngwladol. Mewn ymateb i gyfyngiadau cynyddol ar deithio byd eang oherwydd Covid-19, yn ogystal â’r pryder cynyddol ynglŷn â chynaladwyedd cydweithio wyneb-yn-wyneb, maent bellach yn chwilio am ffyrdd newydd o feithrin cysylltiadau rhyngwladol. Nod y Gronfa Cydweithio Digidol yw mynd i’r afael â’r her yma. Trwy gyfres o grantiau, rydym yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu ffyrdd newydd, rhithiol, o weithio yn rhyngwladol, gan greu ymateb hinsawdd-gyfeillgar i gydweithio rhyngwladol a chyfnewidiad artistig yn ei dro.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.britishcouncil.org/arts/digital-collaboration-fund?utm_source=ukarts&utm_medium=social&utm_campaign=dcf

Preswyliad Egin Awdur – 23 Tachwedd

Mae Ymddiriedolaeth Charles Causley yn falch o gyhoeddi cyfle Preswyliad Egin Awdur yn Cyprus Well, Launceston, Cernyw (cyn gartref y bardd, sydd bellach yn eiddo’r Ymddiriedolaeth).

Deufis yw hyd y preswyliad, ac mae’n agored ar gyfer egin awduron gyda diddordeb yng ngwaith a gwaddol Charles Causley ac yn rhan o brosiect ehangach, dwy flynedd o hyd, o’r enw Ignite. Mae’r prosiect hwn yn derbyn grant gan Arts Council England gyda chefnogaeth sylweddol gan Gyngor Cernyw, Cyngor Tref Launceston, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Aberplym.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://causleytrust.org/2021-emerging-writer-residency/

 

Encil Ddigidol y Gaeaf: Datblygu eich Brand fel Awdur – 24-26 Tachwedd

Ar gyfer Encil y Gaeaf bydd yr arbenigwr cyfathrebu, Anna Caig, yn cynnal tri gweithdy digidol ar ddatblygu eich brand fel awdur. Bydd hefyd ar gael am gyfarfod un-i-un byr â phob awdur i drafod eich gwaith a’ch taith fel awdur. Yna bydd dwy sesiwn fin nos yn ystod yr wythnos. Y gyntaf yng nghwmni’r awdur poblogaidd, Clare Mackintosh, a’r ail gyda Ros Ellis – Pennaeth Cyhoeddusrwydd Ffuglen Bloomsbury Publishing.  O £150 y pen. Noder mai encil drwy gyfrwng y Saesneg yr hon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.tynewydd.cymru/cwrs/encil-y-gaeaf/

 

Gwobr Wales Poetry Award 2020 – 27 Tachwedd

Wedi 55 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth gyfoes, a hynny mewn 212 rhifyn (hyd yn hyn) o’u cylchgrawn, mae Poetry Wales yn cynnal y Wales Poetry Award am yr ail flwyddyn yn olynol. Cystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y goreuon o blith barddoniaeth gyfoes ryngwladol. Mae’r Wales Poetry Award yn derbyn cerddi unigol gan feirdd profiadol a beirdd newydd o Gymru a thu hwnt. Mae 3 gwobr, a 10 gwobr gamoliaeth uchel ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrywales.co.uk/award/

 

Rhaglen Datblygu Proffesiynol Llenyddiaeth Cymru i Awduron o Liw – 4 Rhagfyr

Mae’r cyfle hwn yn agored i awduron o liw dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall awduron sy’n gweithio mewn amryw o ffurfiau llenyddol wneud cais. Yn ogystal â nofelau, barddoniaeth a straeon byrion, gall y ffurfiau hyn gynnwys sgriptiau, perfformiadau byw a/neu ddigidol, nofelau graffeg ac ysgrifennu i blant.

Efallai eich bod chi’n newydd i’r byd ysgrifennu, neu newydd gychwyn ar eich taith ac yn chwilio am gymorth i gyrraedd y lefel nesaf. Efallai y byddwch chi’n awdur eithaf adnabyddus yn barod, ond bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial. Neu efallai eich bod chi am arbrofi â ffurf lenyddol neu iaith wahanol.

Mae modd i awduron sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, neu unrhyw un o ieithoedd eraill Cymru ymgeisio, er mai dim ond ceisiadau Cymraeg neu Saesneg y gallwn eu hasesu ar gyfer y broses gais. Gall awduron nad ydyn nhw’n rhugl eu Cymraeg ond sy’n chwilio am gyfle i wella’u sgiliau ysgrifennu a’u sgiliau creadigol yn Gymraeg hefyd wneud cais, a derbyn cymorth i ddatblygu eu gwaith ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y rhaglen hon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/rhaglen-datblygu-proffesiynol-llenyddiaeth-cymru-i-awduron-o-liw/

 

Galwad Agored: Gwobr Rising Stars Cymru 2021 – 8 Rhagfyr

Roedd Gwobr Rising Stars Cymru 2020 yn rhagweld y byddai’r awduron llwyddiannus yn cael eu hystyried i gyhoeddi eu gwaith fel rhan o Flodeugerdd Rising Stars Cymru. Yn dilyn cais llwyddiannus am gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru, bydd Firefly Press yn cyhoeddi’r Flodeugerdd yn gynnar yn 2022. Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn nawr yn chwilio am 5 bardd talentog arall i elwa o’r cynllun hwn.

Caiff hyd at 5 awdur eu dewis ar gyfer Gwobr Rising Stars Cymru 2021, a byddant yn derbyn:

  • Gwobr ariannol o £100 yr un
  • Cyfle i ymuno gyda gweddill yr ymgeiswyr llwyddiannus mewn sesiwn mentora 2 awr o hyd gydag Alex Wharton, ennillydd Gwobr Rising Stars Cymru 2020
  • Y posibilrwydd o gael detholiad o’u gwaith wedi ei gyhoeddi fel rhan o Flodeugerdd Rising Stars Cymru
  • Gweithdy grŵp gyda’r cyhoeddwyr Firefly Press, ynglŷn â’r diwydiant cyhoeddi
  • Sesiwn hyfforddiant grŵp gyda Llenyddiaeth Cymru, yn canolbwyntio ar gyfleoedd datblygu awduron

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/galwad-agored-gwobr-rising-stars-cymru-2021/