Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn 2022

Cyhoeddwyd Gwe 16 Rhag 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn 2022
Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, rydym wedi bod yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu, cyn i ni droi at groesawu 2023.

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn fawr i Llenyddiaeth Cymru. Rydym wedi lansio Cynllun Strategol newydd, rydym wedi cyhoeddi newid i’n Pencadlys swyddogol, rydym wedi ffarwelio â Lleucu Siencyn fel Prif Weithredwr, a chroesawu dwy arweinydd newydd – Leusa Llewelyn yn Gyfarwyddwr Artistig a Claire Furlong yn Gyfarwyddwr Gweithredol. Agorwyd drysau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd unwaith eto, gan groesawu awduron i’n cyrsiau ac encilion mewn person am y tro cyntaf ers i’r pandemig ddechrau. Rydym wedi gweld awduron yn cymryd y cam nesaf yn eu gyrfa ysgrifennu, ac wedi gweld grym llenyddiaeth i drawsnewid bywydau ar waith.

Ar gyfer y cofnod blog hwn, rydym wedi casglu rhai o uchafbwyntiau 2022 ynghyd. Os hoffech chi ddarllen rhagor, efallai y byddai gyda chi ddiddordeb yn ein Adroddiadau Sefydliadol chwarterol.

 

Cyhoeddi mai’r Bardd Cenedlaethol Cymru newydd yw Hanan Issa.

Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddom mai’r Bardd Cenedlaethol Cymru newydd yw Hanan Issa. Mae’r rôl hwn yn cynrychioli Cymru trwy farddoniaeth, gan ddathlu sgwennu o Gymru a rhannu ein diwylliannau a’n ieithoedd amrywiol gyda’r byd.

Yn y pum mis mae Hanan wedi bod yn Fardd Cenedlaethol, mae hi wedi ysgrifennu am yr argyfwng costau ynni, ei phrofiad personol o fod ag aelod o’r teulu yn byw â dementia, ABCCh Hawliau Cyfartal, cerdd fideo i ddathlu bod Cymru yng Nghwpan y Byd, ac ail-ddychmygu A Child’s Christmas in Wales gan Dylan Thomas.

 

Tirluniau Telynegol

I nodi Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid, fe wnaethom ninnau ac Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Cymru ryddhau cyfres o gerddi a grëwyd gan blant ysgol ledled Cymru, gyda chefnogaeth gan Casi WynBardd Plant Cymru a Connor Allen, Children’s Laureate Wales.

Ar gyfer y prosiect, cafodd 350 o blant o 12 ysgol ymweld â’u safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol lleol er mwyn cael eu hysbrydoli gan amgylchedd naturiol yr ardal, yr hanes a’r etifeddiaeth wrth ddychmygu sut fydd ei ddyfodol yn edrych. Yn yr ystafell ddosbarth, canolbwyntiwyd ar roi geiriau ar bapur a chyfansoddi cerdd sy’n rhannu eu perthynas hwy â byd natur, ac effaith newid hinsawdd ar eu stepen drws.

Darllenwch ragor am brosiect Tirluniau Telynegol.

 

Gwaith Comisiwn i Awduron yn archwilio llenyddiaeth, natur a llesiant

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ymwneud â byd natur yn llesol inni, a gall ymgolli yn yr awyr agored ac ysgrifennu am ei ryfeddodau ein helpu ni yn emosiynol hefyd.

Ym mis Mawrth 2022, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, fe wnaethom wahodd datganiadau o ddiddordeb gan awduron a hwyluswyr creadigol i ddyfeisio a chyflwyno prosiectau ysgrifennu creadigol a oedd yn archwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth, llesiant, a’r amgylchedd naturiol.

Comisiynwyd pedwar prosiect, pob un yn darparu gweithgaredd arloesol a chreadigol newydd yn archwilio gweithgaredd llenyddol ym myd natur ac yn y gymuned leol gan gefnogi iechyd meddwl a lles da.

Do You Get Me?

Wrth i’r ysgolion gau ar gyfer gwyliau’r haf, daeth cyfnod preswyl blwyddyn o hyd Eloise Williams yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail i ben. Yn ystod y flwyddyn academaidd, mwynhaodd holl ddisgyblion Blwyddyn 8 yr ysgol, yn ogystal â rhai grwpiau penodol o flynyddoedd ysgol eraill, gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gydag Eloise. Cafwyd gweithgareddau ychwanegol hefyd, gan gynnwys sesiynau gydag artistiaid gwadd gan gynnwys Duke Al Durham, Rufus Mufasa a Sioned Medi, ac roedd y bobl ifanc hyd yn oed wedi cael cyfle i rannu brecwast ar Zoom gyda Michael Sheen!

Nod y prosiect oedd dysgu am yr effaith y gall cyswllt hir-dymor gydag awdur ei gael ar y dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol. Wrth gasglu gwybodaeth gan athrawon a’r dysgwyr, rydym wedi darganfod bod hyder cyffredinol ymysg y bobl ifanc wedi cynyddu, yn ogystal â’u hyder yn eu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Byddwn yn rhannu canfyddiadau effaith pellach yn y flwyddyn newydd.

Llyfr y Flwyddyn 2022

Dros gyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, fe wnaethom gyhoeddi enillwyr hir-ddisgwyliedig Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Enillydd y Brif Wobr Gymraeg oedd Ffion Dafis gyda’i nofel Mori, ac enillydd y Brif Wobr Saesneg oedd Nadifa Mohamed gyda’i nofel The Fortune Men. Dysgwch fwy am y wobr a’r teitlau buddugol eleni ar dudalennau Llyfr y Flwyddyn.

 

Llên mewn Lle | Lit in Place

Yn yr hydref fe wnaethom lansio prosiect peilot newydd a ddyfeisiwyd gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â WWF Cymru, sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd trwy lenyddiaeth. Mae Llên mewn Lle | Lit in Place wedi rhoi nawdd i awduron a hwyluswyr i ddyfeisio, sefydlu a chyflwyno gweithgaredd gyda chymuned o’u dewis.

Bydd tri phrosiect peilot yn cael eu cefnogi yn 2022-2023, sef Gwledda, sy’n cael ei redeg gan Iola Ynyr yn Rhosgadfan; Ffrwythau ein Tân yn Nhreherbert dan ofal Siôn Tomos Owen; a The LUMIN Syllabus  gan Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse yn Abertawe.

Nod y cynlluniau peilot hyn yw datblygu cymunedau cydnerth trwy eu cefnogi i archwilio a deall eu heco-systemau lleol. Bydd y prosiectau hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddod o hyd i atebion ymarferol i effeithiau andwyol yr argyfwng hinsawdd a natur.

Gallwch ddarganfod rhagor am brosiectau Llên mewn Lle | Lit in Place ar y dudalen brosiect.

 

Maps & Rooms

Yn ein digwyddiad Dihuno’r Dychymyg | Singing the Sun in Flight, a noddwyd gan y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, Dawn Bowden AS, lansiodd y cyhoeddwyr Lucent Dreaming y flodeugerdd Maps & Rooms: Writing from Wales. Mae’r antholeg yn cynnwys gwaith gan awduron rhaglen Cynrychioli Cymru 2021-22 Llenyddiaeth Cymru, ac mae’n arddangos lleisiau rhagorol unigolion a dreuliodd y flwyddyn yn hogi eu sgiliau ac yn cael cipolwg unigryw ar y diwydiant cyhoeddi.

Gallwch ddarllen mwy am y flodeugerdd ar wefan Lucent Dreaming, a darganfod mwy am raglen Cynrychioli Cymru trwy’r fideo isod.

 

Cynrychioli Cymru

Yn ystod 2022 rydym wedi bod yn cefnogi carfan newydd o awduron trwy ein rhaglen Cynrychioli Cymru. Mae 14 o awduron yng ngharfan 2022-2023, yn gweithio ym meysydd ffuglen, gwaith ffeithiol-greadigol, barddoniaeth, ffuglen genre, straeon byrion, ysgrifau a mwy.

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi. Mae’n cynnwys gwobr ariannol o hyd at £3,300 i helpu awduron gymryd amser i ysgrifennu, mynychu sesiynau hyfforddi a digwyddiadau llenyddol ac i’w roi tuag at gostau teithio. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys mentora un-i-un; gweithdai a sgyrsiau misol; yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill.

Dysgwch fwy am yr awduron sy’n cymryd rhan yn y rhaglen eleni, a gwybodaeth gefndirol am Cynrychioli Cymru ar ein gwefan.

Cwrs Stori i Bawb

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru alwad agored i awduron sydd â phrofiadau bywyd sy’n cael eu tangynrychioli, yn benodol o fewn y byd llenyddiaeth a chyhoeddi yn y Gymraeg, i ymgeisio am gyfle i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Croesawyd y naw awdur a ddewiswyd i Dŷ Newydd ym mis Ebrill i fwynhau wythnos dan arweiniad yr awdur a’r hwylusydd celfyddydol Elgan Rhys. Cawsant hefyd weithdai gwadd yng nghwmni’r awdur arobryn Manon Steffan Ros; sesiynau rhithiol yng nghwmni tri o gyd-awduron Y Pump sef Tomos JonesMahum Umer a Leo DraytonNia Morais a Megan Hunter; sesiwn yng nghwmni’r awdur Patience Agbabi a phrynhawn diwydiant yng nghwmni cynrychiolwyr o rai o weisg Cymru.

Darllenwch ragor am gwrs Stori i Bawb yma.

 

Cymru Ni | Our Wales

Yn yr hydref, fe wnaethom gyhoeddi cynnig newydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru Ni | Our Wales yn helpu ysgolion i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gan awduron o liw o Gymru trwy dalu 50% o’u ffi.

Y nod yw fod yr awduron sy’n cyflawni gweithdai Cymru Ni | Our Wales yn ysbrydoli dysgwyr i archwilio ein Cymru fodern mewn modd dychmygus, gan eu helpu i fod yn ‘[d]dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’.

Mae’r cynnig yn dal ar agor, ond mae’r dyddiad cau yn prysur agosáu! Ewch draw i’n tudalennau Cymru Ni | Our Wales i ddarganfod mwy.

 

Helpu sefydliadau eraill i ddatblygu gweithgaredd llenyddol

Elfen bwysig arall o’n gwaith yw hwyluso gweithgarwch llenyddol gyda sefydliadau y tu allan i’n sector. Rydym wedi mwynhau gweld y prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth eleni.

Buom mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru ar eu prosiect Natur a Ni, gan gefnogi’r beirdd, Durre Shahwar a Grug Muse, i gymryd rhan mewn sgyrsiau cenedlaethol a lleol fu’n canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

Roeddem hefyd yn falch iawn o gefnogi Criw Creu, prosiect oedd yn cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru, ac a gefnogwyd hefyd gan Urdd Gobaith Cymru. Nod y prosiect oedd sicrhau bod pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfle i gael mynediad i’r celfyddydau, trwy greu gwaith gwreiddiol o dan arweiniad artistiaid profiadol ac ysbrydoledig.

Fe wnaethom gefnogi prosiect Ymatebion Creadigol Cadw drwy gyd-gomisiynu’r bardd Alex Wharton i ymchwilio ac ysgrifennu am nifer o unigolion nodedig o dreftadaeth Ddu yng Nghymru. Gan ddefnyddio barddoniaeth, cân, a ffilm, mae Alex wedi cyfleu straeon ffigurau amlwg ym myd adloniant, chwaraeon a’r byd academaidd, gan greu teyrngedau i bobl gan gynnwys Iris de Freitas, Clive Sullivan a Betty Campbell.

Ffordd arall rydym yn cefnogi eraill i drefnu gweithgaredd llenyddol yw trwy ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Mae’r prosiect hwn yn cynnig nawdd o hyd at 50% tuag at ffi awdur ar gyfer digwyddiadau, sgyrsiau a gweithdai. Ers mis Mawrth 2022, rydym wedi cefnogi 226 o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru, gyda dros 7,000 o aelodau’r gynulleidfa yn mwynhau sesiynau ysbrydoledig gydag amrywiaeth o wahanol awduron. Mae’r Gronfa Ysbrydoli Cymunedau ar gael drwy gydol y flwyddyn, felly os ydych yn gymdeithas neu’n sefydliad sy’n bwriadu trefnu digwyddiad gydag awdur yn 2023, ewch draw i dudalen cronfa Ysbrydoli Cymunedau i ddarganfod mwy am sut a phryd i wneud cais.